Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3614
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn datganiad Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd yn byw yn y DU, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru?
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Dechreuodd yr eitem am 14.49
NDM6057 Elin Jones (Ceredigion):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 14.49
Cafodd y cynigion ar y saith Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth eu grwpio a gohiriwyd y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 14.49
NDM6061 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hefin David (Llafur Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Llyr Gruffydd (Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
NDM6062 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Jayne Bryant (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Siân Gwenllian (Plaid Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru) a David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
NDM6063 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah Blythyn (Llafur Cymru), Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
NDM6064 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah Blythyn (Llafur Cymru), Hefin David (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a David J Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
NDM6065 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur Cymru), Siân Gwenllian (Plaid Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
NDM6066 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jayne Bryant (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) a Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
NDM6067 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
5 |
52 |
Derbyniwyd y cynnigion.
Cafodd y cynigion ar y chwe Phwyllgor Arbenigol dilynol eu grwpio a’u derbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6068 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
NDM6069 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), David Rees (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cyllid.
NDM6070 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Neil McEvoy (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Deisebau.
NDM6071 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru), Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
NDM6072 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a David J Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a
2. John Griffiths (Llafur Cymru) ar ran Jayne Bryant (Llafur Cymru), Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) ar ran Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) ar ran David J Rowlands (UKIP Cymru) yn eilyddion ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
NDM6073 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Jayne Bryant (Llafur Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Mike Hedges (Llafur Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), David Rees (Llafur Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ac
2. Ann Jones (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Dechreuodd yr eitem am 14.55
Dechreuodd yr eitem am 15.40
Tynwyd yr eitem hon yn ôl
Dechreuodd yr eitem am 16.16
Dechreuodd yr eitem am 16.38
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6054 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig ar gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy cynaliadwy na chlustnodi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
6 |
8 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
1 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Gwnaeth y Llywydd ddatganiad am y camau nesaf posibl ar gyfer newid enw’r Cynulliad.
Dechreuodd yr eitem am 18.05
Tynnwyd gwelliannau 1 a 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27 ar ddiwedd y ddadl.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.
2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitm am 18.28
Daeth y cyfarfod i ben am 18.30
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.00, Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2016